Cyhoeddi Helen Phillips MBE yn Llywydd Gemau’r Gymanwlad Cymru

Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru (CGW) yn cyhoeddi heddiw mai Helen Phillips MBE yw Llywydd newydd y mudiad

Wedi’i henwebu gan Fwrdd CGW a’i hethol gan yr aelodau yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddoe, bydd Helen Phillips MBE yn dechrau ar ei rôl yn syth, gan gymryd yr awenau oddi wrth Anne Ellis OBE sy’n rhoi’r gorau i’r swydd ar ôl dau gylch o’r Gemau.

Mae Helen wedi chwarae rhan annatod yn arwain y bwrdd dros y 9 mlynedd diwethaf trwy raglen foderneiddio a masnacheiddio’r brand. Mae Helen wedi cefnogi’r gwaith o gynllunio a darparu Tîm Cymru mewn pump o Gemau’r Gymanwlad, gan gynnwys Melbourne 2006, Delhi 2010, ac yn fwyaf diweddar fel Cadeirydd ar gyfer Glasgow 2014, Yr Arfordir Aur 2018 a Birmingham 2022. Yn ystod y cyfnod hwn fe sefydlodd gysylltiadau strategol iawn gyda rhanddeiliaid arwyddocaol yng Nghymru ac ar draws y Gymanwlad ym myd busnes ac mewn chwaraeon.

Dyfarnwyd MBE i Helen yn 2019 am wasanaeth i Gymnasteg Cymru, yn gyn feirniad a gweinyddwr ac yn fwy diweddar yn Llywydd Gymnasteg Prydain. Tra’n beirniadu yng Ngemau’r Gymanwlad 2002 bu’n ymwneud yn swyddogol am y tro cyntaf â Chwaraeon y Gymanwlad, a bu Helen yn cystadlu’n rhyngwladol fel chwaraewr Sboncen ac yn ddiweddarach fel hyfforddwr a dyfarnwr.

Dywedodd Llywydd newydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, “Mae’n fraint i mi dderbyn y rôl fel Llywydd, ac mae’r cyfle i gymryd y baton oddi wrth yr enwog Anne Ellis OBE, sydd wedi ysbrydoli cymaint o bobl yn Chwaraeon Cymru yn gwneud yr anrhydedd sy’n mynd y tu hwnt i unrhyw un o’m llwyddiannau blaenorol yn fwy fyth. Mae wedi bod yn bleser gwasanaethu ein haelodau chwaraeon a’u hathletwyr ac er mewn rôl wahanol rwy’n edrych ymlaen at y cylch nesaf a chynyddu proffil Tîm Cymru.

Ychwanegodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru “Mae Helen wedi bod yn Gadeirydd gwych i’n sefydliad ac mae’n arweinydd ysbrydoledig sy’n uchel ei pharch ac yn cael ei hedmygu gan lawer. Mae ei phrofiad helaeth ynghyd â’i hangerdd heintus dros Dîm Cymru yn cael ei edmygu ledled Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch iddi am ei harweiniad a’i harweinyddiaeth eithriadol yn ystod chwe mis cyntaf fy nghyfnod yma yn Nhîm Cymru. Edrychaf ymlaen at weithio gyda hi a Gareth Davies, ein Cadeirydd newydd ar gyfer y pedair blynedd nesaf, yn y cyfnod cyn Victoria 2026. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i Dîm Cymru gyda Llywydd a Chadeirydd mor nodedig.”