
Craig Maxwell
Pennaeth Gwerthiant a Marchnata Grŵp
Undeb Rygbi Cymru a Stadiwm Principality
Dechreuodd Craig ei yrfa yn URC yn 2004 fel Rheolwr Nawdd, yn 2008 symudodd i Global Sports Manufacturer ar gyfer Under Armour i gefnogi eu lansiad yn y DU ac Iwerddon fel Pennaeth Marchnata Chwaraeon y DU ac Iwerddon.
Dychwelodd i URC yn 2010 fel Pennaeth Gwerthiant a Marchnata Grŵp, yn gyfrifol am reoli materion Marchnata a Masnachol y Grŵp.
Mae Craig hefyd yn Gyfarwyddwr Clwb Cefnogwyr URC Cyfyngedig a’r fenter ar y cyd hynod lwyddiannus gyda Compass Plc “Principality Stadium Experience” sy’n rheoli’r holl drefniadau lletygarwch, cynadledda ac arlwyo ar gyfer Stadiwm Principality. Mae hefyd yn eistedd ar bwyllgorau masnachol PRO14 a 6 Nations Limited.
Ymunodd â Bwrdd Gemau’r Gymanwlad yn 2014.