Skip to content

Comisiwn yr
Athletwyr

Mae’r Comisiwn Athletwyr yn rhan bwysig o baratoi, a sefydlwyd i gysylltu’r athletwyr yn uniongyrchol â Gemau’r Gymanwlad Cymru (CGW), y corff cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddewis ac anfon athletwyr elitaidd i gystadlu dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad.

Bydd y grŵp o athletwyr, sy’n dod o ystod eang o chwaraeon, yn gweithio gydag aelodau bwrdd CGW i roi adborth ar amrywiaeth o bynciau a materion sy’n ymwneud ag athletwyr. Mae’r grŵp yn cynnwys:

Jazz Carlin

Jazz Carlin – Cyn nofiwr Medal Aur Gemau Olympaidd a Gemau’r Gymanwlad

“Roedd yn anodd iawn ymddeol o’r gamp rwy’n ei charu, ond rydw i wrth fy modd i gael parhau’n gysylltiedig â Thîm Cymru yn mynd i Firmingham 2022 o hyd. Mae’n gyfle i mi rannu fy mhrofiadau gydag athletwyr nesaf y Gymanwlad.”

Lauren Price

Lauren Price – Bocsiwr Medal Aur Gemau’r Gymanwlad 2018 

“Mae’n anrhydedd eithriadol i fod yn rhan o’r comisiwn athletwyr ar gyfer Tîm Cymru. Mae’n anrhydedd cynrychioli Cymru bob amser, boed yn cystadlu fel athletwr neu fel cynrychiolydd athletwyr i Dîm Cymru.”

Anwen Butten

Anwen Butten – Cystadleuydd Bowlio Rhyngwladol Cymru dros Gymru

“Rwyf wrth fy modd o gael bod yn llwyddiannus wrth ymuno â’r AC. Mae gen i gyfoeth o brofiad o Gemau blaenorol ac rwy’n edrych ymlaen at gael y cyfle i fod yn gweithio tuag at Firmingham. Hyrwyddo llais yr athletwyr yn llwyddiannus.”

Gareth Evans

Gareth Evans – Codwr Pwysau Medal Aur Gemau’r Gymanwlad 2018

“Mae’n anrhydedd i mi gael y cyfle i fod yn rhan o’r Comisiwn Athletwyr cyn Gemau’r Gymanwlad ym Mirmingham 2022. Bydd hwn yn gyfle gwych i mi roi rhywbeth yn ôl i chwaraeon yng Nghymru a defnyddio fy amser mewn chwaraeon lefel uchaf i helpu i wneud y gemau yn brofiad gwell i athletwyr Cymru.”

Jaz Joyce

Jaz Joyce – Chwaraewr 7 bob ochr Undeb Rygbi Cymru a Gemau’r Gymanwlad

”Rwyf wedi cyffroi i fod yn rhan o hyn, ac mae’n gyfle gwych i athletwyr leisio eu barn”

Rhys Jones

Rhys Jones – Paralympiad ac athletwr Gemau’r Gymanwlad

“Mae’n anrhydedd bod yn rhan o Gomisiwn Athletwyr Tîm Cymru. Am gyfle anhygoel yw hwn i fod yn llais i athletwyr a phara-athletwyr gyda’r gêm yn un gynhwysol. Alla i ddim aros am Firmingham 2022! Amdani.”

Bethan Davies

Bethan Davies – Cerddwr Rasio Medal Efydd Gemau’r Gymanwlad 2018

“Mae’n anrhydedd mawr cael fy newis ar gyfer y Comisiwn Athletwyr, cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur 2018 yw fy moment athletaidd balchaf hyd yma o bell ffordd ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o lais yr athletwr wrth i Dîm Cymru baratoi at Firmingham 2022.”

Leah Wilkinson

Leah Wilkinson – Capten Hoci Cymru

“Mae ymwneud â rhai o’r athletwyr sydd yn y Comisiwn Athletwyr yn wirioneddol bwysig i mi. Gan ddefnyddio fy mhrofiad mewn 3 o Gemau’r Gymanwlad blaenorol, mae cael cyfle i gyfrannu yn wirioneddol arbennig ac yn gyfle gwych. Bydd hi mor braf siarad ag athletwyr eraill o bob math o wahanol gampau ac eistedd a thrafod er mwyn gwthio Tîm Cymru gyfan ymlaen dros y tair blynedd nesaf.”