100 diwrnod i fynd!
Roedd dydd Mawrth 19 Ebrill yn nodi 100 diwrnod i fynd tan Birmingham 2022
Gyda dim ond 100 diwrnod i fynd tan Birmingham 2022, dyma nodyn i’ch atgoffa o beth i’w ddisgwyl dros y misoedd nesaf…
Lansiwyd ymgyrch Tîm Cymru ‘Gorau nod, uchelgais’ fis Hydref diwethaf gyda 300 diwrnod i fynd. Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar adeiladu amgylchedd cryf ac unedig, cefnogi’r tîm ar eu taith i Birmingham, a chipio’r straeon sy’n gyrru’r athletwyr a’r staff cymorth i gyflawni eu dyheadau a chyrraedd eu ‘huchelgais’.
Comisiynwyd y bardd enwog, Eurig Salisbury, i ysgrifennu cerdd yn arbennig ar gyfer Tîm Cymru o’r enw ‘Codwn’, gyda’r actor Hollywood Matthew Rhys yn lleisio’r ffilm bwerus. Gallwch weld y ffilm yma.
Bydd Gemau Birmingham 2022 yn cael eu cynnal rhwng 28 Gorffennaf a 8 Awst, gyda’r Seremoni Agoriadol yn cael ei chynnal yn Stadiwm Alexander ar 28 Gorffennaf.
Bydd gemau eleni yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws Canolbarth Lloegr, gan gynnwys Stadiwm Alexander, Stadiwm ac Arena Coventry, Stadiwm Edgbaston, yr NEC, Prifysgol Birmingham, Warwick, tra bydd y seiclo trac yn cael ei gynnal yn Lee Valley Velopark yn Llundain.
Mae’r digwyddiad yn cynnwys 26 o ddigwyddiadau chwaraeon, gan gynnwys campau Dŵr, Beicio, Gymnasteg, Rygbi Saith Bob Ochr a Phêl-foli. Am y tro cyntaf mae criced T20 i fenywod, Pêl-fasged 3 x 3 a Phêl-fasged Cadair Olwyn 3 x 3 wedi’i gynnwys yn y rhaglen chwaraeon, gyda Gemau 2022 yn cynnwys y nifer fwyaf o gystadlaethau para-chwaraeon mwyaf yn hanes y Gemau.
Hyd yn hyn mae Tîm Cymru wedi cyhoeddi bod y tîm Pêl-rwyd, Hoci Dynion a Merched, a Tennis Bwrdd merched wedi ennill eu lle, yn ogystal â Callum Evans yn cael ei enwi fel yr athletwr cyntaf i fynd i Birmingham yn senglau Tenis Bwrdd y dynion. Bydd y tîm llawn yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin eleni.
Dywedodd Chef de Mission Tîm Cymru, Nicola Phillips, “Mae’n anodd credu ein bod ar yr Arfordir Aur union 4 blynedd yn ôl, a nawr mae’n 100 diwrnod tan i Gemau Birmingham ddechrau. Roeddwn i mor falch o fod yn Chef de Mission Tîm Cymru yn 2018, a hyd yn oed yn fwy felly eleni, ar ôl gweld beth mae’r holl athletwyr a staff cymorth wedi mynd drwyddo i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer y Gemau yn rhyfeddol. Alla i ddim aros i gefnogi’r tîm ymhen 100 diwrnod yn union.”
Cyn y Gemau ym mis Gorffennaf, bydd Taith Baton y Frenhines yn cychwyn ar ei thaith drwy Gymru, gan fod y cyrchfan olaf cyn dychwelyd i Loegr ac yn ôl i Birmingham yn barod ar gyfer y Seremoni Agoriadol. Bydd Taith Baton y Frenhines yng Nghymru yn cychwyn yn Ynys Môn ar 29 Mehefin. Gallwch ddarllen mwy ar lwybr Taith y Baton drwy Gymru yma
Peidiwch ag anghofio dilyn taith #TîmCymru i Birmingham ar Instagram, Facebook a Twitter @TeamWales