Gemau'r Gymanwlad Cymru

Y Baton

Cynlluniwyd Baton y Frenhines Gemau'r Arfordir Aur 2018 gan gwmni Designworks yn Queensland. Daeth yr ysbrydoliaeth o hanes, pobl a bwrlwm yr Arfordir Aur. Mae'r Baton yn llachar a lliwgar sy'n adlewyrchu egni pobl, llefydd ac enaid yr Arfordir Aur. Mae'r Baton yn anfon neges amgylcheddol gref, gan fod y deunyddiau a ddefnyddiwyd i'w greu yn rhai cynaliadwy, yn cynnwys plastig gwastraff a ganfuwyd yn y môr a phren macadamia, coeden frodorol yr Arfordir Aur.